On average 150-200 individuals come through the centre on a weekly basis. On many occasions the building has literally been the last refuge for those in desperate need of shelter, food provisions, a hot meal or for those looking to make new friends.
Ar gyfartaledd mae 150-200 o unigolion yn dod drwy'r ganolfan yn wythnosol. Ar sawl achlysur bu'r adeilad yn llythrennol yn lloches olaf i'r rhai sydd mewn angen dirfawr am loches, darpariaethau bwyd, pryd poeth neu i'r rhai sy'n dymuno gwneud ffrindiau newydd.
The Trinity Centre offers a place where the local community can meet, share and learn from their experiences of life in a safe environment.
Mae Canolfan y Drindod yn cynnig man lle gall y gymuned leol gyfarfod, rhannu a dysgu o’u profiadau o fywyd mewn amgylchedd diogel.
To offer a space where people from multiple continents with various faith backgrounds or none, can learn to integrate into their locality through coming together through a variety of programmes and groups which use the Centre’s facilities.
Cynnig gofod lle gall pobl o gyfandiroedd lluosog sydd â chefndir ffydd amrywiol neu ddim o gwbl, ddysgu integreiddio i’w hardal leol trwy ddod at ei gilydd trwy amrywiaeth o raglenni a grwpiau sy’n defnyddio cyfleusterau’r Ganolfan.
To offer sanctuary for all to support the needy in society, including refugees and asylum seekers, and to break down the barriers that separate communities by building mutual understanding respect and trust.
Cynnig noddfa i bawb i gefnogi’r anghenus mewn cymdeithas, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a chwalu’r rhwystrau sy’n gwahanu cymunedau trwy feithrin cyd-ddealltwriaeth, parch ac ymddiriedaeth.
The centre endeavours to strive to work for the betterment of the individual and society at large. It will initiate and/or collaborate with others aiming to serve, support and empower those in need, be they seeking sanctuary, trying to integrate or surviving on low income.Trinity is being developed as a hub for those in need and, where possible, a partner to those fulfilling that need.
Mae'r ganolfan yn ymdrechu i weithio er lles yr unigolyn a'r gymdeithas yn gyffredinol. Bydd yn cychwyn a/neu’n cydweithio ag eraill gyda’r nod o wasanaethu, cefnogi a grymuso’r rhai mewn angen, boed yn chwilio am noddfa, yn ceisio integreiddio neu’n goroesi ar incwm isel. Mae’r Drindod yn cael ei datblygu fel canolbwynt i’r rhai mewn angen a, lle bo modd, partner i'r rhai sy'n cyflawni'r angen hwnnw.